Yn unol â chyngor y llywodraeth ar COVID-19, ynghyd â’n sefydliad lletyol, Prifysgol Caerdydd, mae holl staff Parc Geneteg Cymru yn gweithio o bell ac yn ymaddasu i ffyrdd newydd o gyflawni ein rhaglen waith.  Er bod ein gwaith labordy wedi’i ohirio hyd nes y bydd hi’n ddiogel inni fynd yn ôl i’r gwaith fel arfer, mae cefnogaeth ar gyfer cynllunio prosiectau cyn y gwaith labordy a dadansoddi data yn mynd yn ei flaen.  Mae’r holl weithgareddau Addysg ac Ymgysylltu wedi’u gohirio tan ddiwedd mis Awst, ond mae’r tîm yn ystyried ffyrdd eraill o gyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau amgen. Ewch i hafan ein gwefan a’n calendr digwyddiadau i gael gwybod am unrhyw ddigwyddiadau wedi’u haildrefnu. Yn ogystal, oes os gennych gyfrif Twitter, gallwch ein dilyn (@WalesGenePark) i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am weithgareddau Parc Geneteg Cymru, ebostwich walesgenepark@caerdydd.ac.uk

Gallwch gael diweddariadau rheolaidd am y sefyllfa ymchwil yng Nghymru drwy ein harianwyr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: https://www.ymchwiliechydagofal.llyw.cymru/covid-19/?force=2

Er na allwn ddisgrifio ein gweithgareddau presennol fel rhai sy’n mynd rhagddynt fel arfer, gallwn eich sicrhau ein bod ni yma o hyd ac yn gweithio’n galed er mwyn hyrwyddo a chefnogi ymchwil geneteg a genomeg yng Nghymru. Mae ein drysau, er nid yn llythrennol, bob amser ar agor i chi.

Cofion gorau,

Andrew Fry, Karen Reed ac Angela Burgess

Cyfarwyddwr a Chyd-gyfarwyddwyr, Parc Geneteg Cymru