A ydych wedi eich effeithio gan gyflwr prin neu enetig? Ydych chi’n aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am iechyd a genomeg? Ymunwch â ni ar gyfer Caffi Genomeg Rhithwir! Parc Genynnau Cymru sy’n cynnal y fenter hon ar y cyd â Phartneriaeth Genomeg Cymru. Bydd y caffi arbenigol hwn – a drefnir gyda Friends of Cymru Sickle Cell & Thalassemia – yn canolbwyntio ar haematoleg; yn benodol anaemias etifeddol a gorlwytho haearn. Bydd yn cynnwys darlithoedd hamddenol gan gynnwys:

  • Ariannu ac ehangu’r gwasanaeth yng Nghymru ar gyfer Anaemias Etifeddol: Dr Sian Lewis
  • Rôl a gwasanaethau’r Nyrs Glinigol Arbenigol a ddarperir: Annette Blackmore
  • Trallwysiad Gwaed ar gyfer Anaemias Etifeddol (yr angen, y problemau a geir a’r datblygiadau): Dr Keith Wilson
  • Cyflwyniad i Friends of Cymru Sickle Cell & Thalassaemia: Faith Walker

Bydd y Caffi Haematoleg yn gyfle anffurfiol i gwrdd ag eraill, clywed darlithoedd gan arbenigwyr a gofyn cwestiynau. Bydd hefyd yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd a chael cefnogaeth gan eraill yn eu cymunedau. Mae’r caffi AM DDIM, ond bydd angen i chi gofrestru trwy Eventbrite i gael y ddolen ymuno Zoom a chyfarwyddiadau.

Cofrestrwch ar gyfer y Caffi Haematoleg: https://rb.gy/7w4j8j

I gael rhagor o wybodaeth ebostiwch walesgenepark@cardiff.ac.uk