Noddir gan Mark Isherwood MS
Ymunwch â Genetic Alliance UK a chefnogwyr i ddysgu mwy am waith y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Prin, Genetig a Heb Ddiagnosis a sut mae Fframwaith newydd y DU ar gyfer Clefydau Prin yn anelu at wella bywydau etholwyr y mae’r cyflyrau hyn yn effeithio arnynt.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys clinigwyr a chleifion a theuluoedd y mae cyflyrau prin yn effeithio arnynt yn rhannu eu persbectif ar sut y gall y Fframwaith gael effaith yng Nghymru. Bydd y sesiwn yn ymdrin â:
- diagnosis o gyflyrau prin a sut mae genomeg yn trawsnewid gofal iechyd
- gweithwyr proffesiynol iechyd a chydlynu gofal
- i ofal arbenigol, triniaeth a chyffuriau.
Ebostiwch Emma Hughes: emma@geneticalliance.org.uk i fynegi diddordeb mewn mynychu’r sesiwn friffio a derbyn cyfarwyddiadau ymuno.