Bellach yn ei 12fed flwyddyn, mae Sioe Deithiol Geneteg a Genomeg Ysgolion Parc Gene Cymru wedi mynd yn rhithwir am y tro cyntaf!
Beth yw’r Sioe Deithiol?
- Deithiol yn cynnig cyflwyniadau rhad ac am ddim i fyfyrwyr bioleg/gwyddoniaeth blwyddyn 12 a 13 eich ysgol neu goleg
- Yn ystod sesiynau’r sioe deithiol fyw bydd siaradwyr arbenigol (dau fesul digwyddiad fel arfer) yn trafod pynciau sy’n ymwneud â DNA, geneteg a genomeg, gan gyflwyno datblygiadau blaengar yn y meysydd hyn a thrafod gyrfaoedd. Mae pob cyflwyniad tua 20 munud o hyd gydag amser ar gyfer cwestiynau – mae’r sioe deithiol yn para hyd at awr (byddwn yn ceisio ein gorau i deilwra digwyddiadau i unrhyw anghenion/amseriadau penodol sydd gennych)
- Os oes gennych unrhyw bynciau penodol yr hoffech chi glywed amdanynt, rhowch wybod i ni. Byddwn yn ceisio cynnig darlithoedd am bynciau dewisol, ond ni allwn warantu hyn gan ei fod yn dibynnu a yw’r siaradwr ar gael.
- Cynhelir y digwyddiadau yn nhymor yr hydref 2021 a thymor y gwanwyn 2022
Sut alla i gymryd rhan?
I fynegi eich diddordeb mewn cynnal sioe deithiol a chael ffurflen cadw lle, neu gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch walesgenepark@caerdydd.ac.uk
