Rhaglenni Dysgu Peiriannol mewn Genomeg

 2 Rhagfyr, 1-2 o’r gloch (amser y DU), Zoom

Rhaglen fuddsoddi gwerth £16 miliwn, yw Uwchgyfrifiadura Cymru ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru. Mae’n galluogi timau ymchwil prifysgolion i ddefnyddio cyfleusterau cyfrifiadura pwerus i gynnal prosiectau gwyddoniaeth ac arloesedd proffil uchel ym mhrifysgolion y consortiwm – Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth.

Yn rhan o’i bartneriaeth ag Atos a Dell Technologies, mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn cynnig gweithdai hyfforddi ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol, staff a pheirianwyr meddalwedd Ymchwil. Bydd y sesiwn Rhaglenni Dysgu Peiriannol mewn Genomeg sydd i’w chynnal ar 2 Rhagfyr 2021 yn adolygu’r achosion o ddefnyddio gyda rhwydweithiau niwral Deallusrwydd Artiffisial, rhwydwaith Bayesian a choed penderfyniadau.

Cofrestrwch drwy: https://tinyurl.com/45c45ns7

Os oes gennych ymholiadau a chwestiynau ynghylch y sesiwn, cysylltwch â Kevin Ashelford