Ydych chi’n aelod o’r gymuned ganser? Ydych chi’n teimlo y gallai gwyddoniaeth canser gael ei hesbonio’n well? Allwch chi ddweud wrthym sut y gallai gwell gwybodaeth eich helpu chi? Yna cymerwch ran yn ein prosiect Chi Unigryw.
Mae angen eich help ar ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Caerdydd i greu adnoddau i’w defnyddio gyda’r gymuned ganser mewn digwyddiadau cyhoeddus. Rydym am symleiddio’r wyddoniaeth a’ch helpu i ddeall canser, genomeg a meddygaeth bersonol. Hoffem glywed am yr hyn yr hoffech CHI wybod mwy amdano. Allech chi rannu eich syniadau yn un o’n gweithdai?
- Dydd Iau 3ydd Chwefror gweithdy, 6 – 8 pm, ar-lein. Cofrestrwch: https://rb.gy/ihlbjj
NEU
- Dydd Gwener 11eg Chwefror gweithdy, 10am – 12, ar-lein. Cofrestrwch: https://rb.gy/ewsrwn
Mae honorariwm o £20 yn awr ar gael am eich amser (hyd at uchafswn o £40). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Prosiect Chi Unigryw
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen i chi gysylltu â thîm y prosiect, anfonwch e-bost atom yn UniqueYou@caerdydd.ac.uk
