Hoffai Genetic Alliance UK gwahodd i dderbyniad ar 22 Chwefror, 6-8pm i nodi Diwrnod Clefydau Prin 2022.
Mae Diwrnod Clefydau Prin yn ddigwyddiad rhyngwladol blynyddol sy’n codi ymwybyddiaeth o anghenion pobl sy’n byw gyda chyflyrau. Mae dros 6000 o glefydau prin yn effeithio ar 175,000 o bobl ledled Cymru. Gyda’i gilydd, nid yw clefydau prin yn brin.
Bydd y derbyniad, a gynhelir gan Russel George AS, yn gyfle i gwrdd â phobl sy’n cael eu heffeithio gan gyflyrau prin yn ogystal ag ystod eang o randdeiliaid sydd â diddordeb yn y maes gan gynnwys clinigwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, a chynrychiolwyr sefydliadau cleifion, ymchwilwyr a diwydiant.
Ar ôl rhyddhau Fframwaith Clefydau Prin y DU, rydym yn aros am lansiad buan Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Clefydau Prin. Byddwn yn clywed gan Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dr Graham Shortland am gynnydd y Cynllun Gweithredu.
Bydd Genetic Alliance UK, yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan gyflyrau prin, yn lansio adroddiad ar brofiadau diagnosis i bobl sydd wedi’u heffeithio gan gyflyrau prin. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno argymhellion y gobeithiwn y bydd y pedair gwlad yn eu hystyried wrth roi eu Cynlluniau Gweithredu ar waith.
Byddwn yn defnyddio platfform newydd ar gyfer y digwyddiad. Bydd platfform Remo yn hwyluso rhwydweithio, gan adael i chi gael rhai o fanteision derbyniad wyneb yn wyneb. Yn ystod y sesiwn rwydweithio, hoffem gynnig “bwrdd” i chi lle gall aelodau o’ch etholaeth ddod i siarad â chi am gyflyrau prin.
Gobeithiwn y byddwch yn mynd i’r derbyniad i ddangos eich cefnogaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan gyflyrau prin.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/265012749267
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rarediseaseday@geneticalliance.org.uk
