Bellach yn ei 12fed flwyddyn, mae Sioe Deithiol Geneteg a Genomeg Ysgolion Parc Gene Cymru wedi mynd yn rhithwir am y tro cyntaf!

Beth yw’r Sioe Deithiol?

  • Deithiol yn cynnig cyflwyniadau rhad ac am ddim i fyfyrwyr bioleg/gwyddoniaeth blwyddyn 12 a 13 eich ysgol neu goleg
  • Yn ystod sesiynau’r sioe deithiol fyw bydd siaradwyr arbenigol (dau fesul digwyddiad fel arfer) yn trafod pynciau sy’n ymwneud â DNA, geneteg a genomeg, gan gyflwyno datblygiadau blaengar yn y meysydd hyn a thrafod gyrfaoedd. Mae pob cyflwyniad tua 20 munud o hyd gydag amser ar gyfer cwestiynau – mae’r sioe deithiol yn para hyd at awr (byddwn yn ceisio ein gorau i deilwra digwyddiadau i unrhyw anghenion/amseriadau penodol sydd gennych)
  • Os oes gennych unrhyw bynciau penodol yr hoffech chi glywed amdanynt, rhowch wybod i ni. Byddwn yn ceisio cynnig darlithoedd am bynciau dewisol, ond ni allwn warantu hyn gan ei fod yn dibynnu a yw’r siaradwr ar gael.
  • Cynhelir y digwyddiadau tan diwedd mis Mawrth 2022

Sut alla i gymryd rhan?

I fynegi eich diddordeb mewn cynnal sioe deithiol a chael ffurflen cadw lle, neu gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch walesgenepark@caerdydd.ac.uk