Hoffem eich gwahodd i gyfarfod rhithwir y CPG ar Gyflyrau Prin, Genetig a Heb Ddiagnosis a fydd yn cael ei arwain gan Mike Hedges AS ddydd Mercher 18 Mai, 12:00-13:30 trwy Zoom.
Bydd Cynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru yn cael ei lansio yn y cyfarfod; bydd yn nodi sut y bydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a phartneriaid cyflawni yn gweithredu Fframwaith Clefydau Prin y DU yng Nghymru.
- Bydd y Cynllun Gweithredu yn mynd i’r afael â’r pedair blaenoriaeth a nodir yn Fframwaith Clefydau Prin y DU:
Blaenoriaeth 1: helpu cleifion i gael diagnosis terfynol yn fwy cyflym
Blaenoriaeth 2: cynyddu ymwybyddiaeth o glefydau prin ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
Blaenoriaeth 3: cydgysylltu gofal yn well
Blaenoriaeth 4: gwella mynediad at ofal arbenigol, triniaethau a chyffuriau
Bydd y cyfarfod hefyd yn trafod rhai o’r rhwystrau allweddol sy’n cyfyngu ar fynediad at ddiagnosis yn y DU ac yn ystyried yr argymhellion a nodwyd yn adroddiad Good Diagnosis Cynghrair Genetig y DU sy’n ceisio mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn.
Byddwn yn clywed gan:
– Natalie Frankish, Arweinydd ar y Prosiect Good Diagnosis yn Genetic Alliance UK
– Claire Swan, Cynrychiolydd Rhieni yn SWAN UK
– Graham Shortland, Cadeirydd Y Grŵp Gweithredu ar gyfer Clefydau Prin, yng Nghymru
Bydd aelodau o’r gymuned cyflyrau prin yn mynd i’r cyfarfod hwn gan gynnwys pobl sy’n byw gyda chyflyrau prin, aelodau o’r diwydiant fferyllol a’r sefydliadau sy’n gyfrifol am roi’r Cynllun Gweithredu ar waith.
Cadw eich lle trwy: eventbrite
Gofynnwch i’ch Aelod o Senedd Cymru fynegi diddordeb yng nghyfarfod Grŵp Trawsbleidiol Cymru drwy ddefnyddio ein templed ebost. Gallwch ei bersonoli i ychwanegu gwybodaeth amdanoch eich hun.
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Prin, Genetig a Heb Ddiagnosis, hefyd yn cael ei gynnal yn ystod y cyfarfod. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn aelod o’r CPG, cysylltwch â rachel.clayton@geneticaliance.org.uk.
Anfonwch RSVP at rachel.clayton@geneticaliance.org.uk am ragor o wybodaeth am y cyfarfod.