Bioleg Arloesol: Geneteg a Genomeg DPP
9am – 3.45pm (talks start 9.30am), 23 Mehefin 2022
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf, Caerdydd CF5 2YB
Ymunwch â Pharc Geneteg Cymru a Phrifysgol De Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf ym maes geneteg a genomeg, sy’n symud yn gyflym. Manteisiwch ar y cyfle i gyfoethogi eich addysgu uwchradd â gwybodaeth arloesol drwy wrando ar gyflwyniadau arbenigol a chymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol. Rydym yn cynnal digwyddiad DPP Geneteg a Genomeg ar gyfer athrawon. STEM Learning sy’n ariannu’r digwyddiad. Mae’r sesiynau’n cynnwys:
• Genomeg Maeth ac Epigenomeg
• Gweithdy Biowybodeg
• Dadansoddi Genom COVID-19 yng Nghymru
• Tremolo – drama newydd sbon am geneteg ar gyfer myfyrwyr ôl-16 ar ffurf podlediad
• Sesiwn labordy ar nodi polymorffedau niwcleotid unigol sy’n gysylltiedig â geneteg blas, lle ceir gorsafoedd sy’n cynnwys microsgopau, sy’n mesur DNA, sy’n ymarfer electrofforesis gel ac sy’n dehongli canlyniadau
• Trafodaeth ynghylch geneteg a moeseg, gan gynnwys meysydd fel dilyniannu genomau a chydsyniad
• Cyfleoedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddarpar fyfyrwyr
Ariannu: mae STEM LEARNING Ltd yn talu am y cwrs hwn yn rhannol.
NID OES UNRHYW GOST a gall athrawon hawlio bwrsariaeth £165 ENTHUSE.
I wneud cais, ewch i: https://www.stem.org.uk/cpd/512394/teachers-wales-only-cutting-edge-biology-genetics-genomics-cpd-teachers
Darperir cinio a lluniaeth
Cewch ragor o fanylion drwy gysylltu â: walesgenepark@caerdydd.ac.uk
