Mae Cynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru 2022 – 2026 wedi cael ei lansio.

Nod y cynllun yw helpu cleifion i gael diagnosis terfynol yn gyflymach a chynyddu ymwybyddiaeth o glefydau prin ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Trwy hynny, bydd hyn yn hyrwyddo ffyrdd gwell o gydlynu gofal a gwella mynediad at ofal arbenigol, triniaeth a meddyginiaethau.

Cewch hyd iddo drwy dudalennau gwe Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru yn ogystal â rhagor o wybodaeth am y Grŵp Gweithredu Clefydau Prin.