Ydych chi’n aelod o’r gymuned ganser? Ydych chi’n teimlo y gallai gwyddoniaeth canser gael ei hesbonio’n well? Allwch chi roi adborth ar ein hadnoddau newydd?

Yna cymerwch ran ein prosiect Chi Unigryw. Mae angen eich help ar ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Caerdydd i brofi adnoddau i’w defnyddio gyda’r gymuned ganser mewn digwyddiadau cyhoeddus. Rydyn ni eisiau symleiddio gwyddoniaeth canser ac rydyn ni wedi creu adnoddau newydd i helpu pobl i ddeall ffactorau risg a phrawf canser newydd.

Allwch CHI ein helpu i brofi’r adnoddau a rhoi adborth yn ein gweithdy?

Dydd Iau Medi 15, 3.15 – 4.45pm, Pafiliwn Grange, Caerdydd. Cofrestrwch yma.

Mae treuliau ar gael am eich amser a theithio.

I gael rhagor o wybodaeth, ebost: uniqueyou@caerdydd.ac.uk