A ydych yn berson ifanc sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am genomeg ac iechyd, neu a effeithir gan gyflwr prin neu enynnol? Ymunwch â ni!

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at y rhai yn y grŵp oedran 16 i 25. Yng nghaffi mis Hydref, bydd cyflwniadau hamddenol sy’n cynnwys:

  • Cromosomau! Dr Andrew Fry, Uwch-ddarlithydd Clinigol mewn Geneteg Feddygol, Prifysgol Caerdydd
  • Cyflwyniad i Ffarmacogenomeg Sophie Harding, Arweinydd Ffarmacogenomeg, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr
  • Medics4RareDiseases Lucy McKay, CEO Medics4RareDiseases

Croeso i bawb – mae’n RHAD AC AM DDIM

Cofrestrwch: https://tinyurl.com/34ehzs74