Ymunwch â ni ar gyfer ein cyfarfod blynyddol o’r Rhwydwaith Clefydau Prin – mae’n rhad ac am ddim i ymuno ac mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn clefydau prin!

Eleni, byddwn yn clywed am gyfleoedd i gymryd rhan yn Niwrnod Clefydau Prin 2023, datblygu gwasanaeth pasbort cleifion ar gyfer cleifion â chlefydau prin yng Nghymru a diweddariadau ar weithredu clinigau amlddisgy blaethol ar gyfer y rhai â chyflyrau prin heb ddiagnosis. Byddwn hefyd yn cael y cyfle i lunio canolbwynt digidol ar gyfer cleifion clefydau prin yng Nghymru yng ngweithdy’r prynhawn.

Mae’n RHAD AC AM DDIM i ymuno.

Os hoffech chi gael cyfarwyddiadau o ran ymuno â ni, cofrestrwch gan ddefnyddio dolen Eventbrite: https://tinyurl.com/bdejt8bv

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Hughes: emma@geneticalliance.org.uk