Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am faes hynod ddiddorol – DNA, geneteg a genomeg – a chael gwybod sut mae’n effeithio ar ein bywydau pob dydd? Ymunwch â ni ar gyfer 7ed cynhadledd flynyddol 3G Parc Geneteg Cymru!
Byddwch yn clywed cyflwyniadau gan arbenigwyr am bynciau sy’n cynnwys:
- Cael yr Amseru’n Gywir: Chrononutrition
- Technoleg Golygu Genynnau ‘CRISPR’ yn Torri Tir Newydd
- Archwilio poblogaethau cynnar ym Mhrydain drwy ddefnyddio DNA hynafol
- Anadlu’n Haws mewn Byd Llygredig
- Symud Drwy’r Menopos – o safbwynt ghrelin
- Materion Moesegol ym Maes Meddygaeth Enetig/Genomig
Ymunwch â ni drwy’r dydd neu galwch heibio am rai o’r cyflwyniadau (bydd y cyflwyniadau’n para 25 munud gyda chyfle i holi’r arbenigwyr sy’n siarad). Digwyddiad ar gyfer aelodau’r cyhoedd sydd dros 50 oed yw hwn, ond mae croeso i bawb.
Mynediad RHAD AC AM DDIM. Rhaid cofrestru drwy ddefnyddio Eventbrite: https://tinyurl.com/ycar6fpr
I gael rhagor o wybodaeth ebostiwch walesgenepark@caerdydd.ac.uk
