Mae genomeg ymhlith meysydd mwyaf cyffrous gofal iechyd yn yr 21ain ganrif, a bydd yn rhoi cyfleoedd inni nad oedd modd inni eu dychmygu yn y gorffennol, i’n galluogi ni i ddeall salwch, gwella canlyniadau i gleifion a thrawsnewid bywydau. Bydd meddyginiaeth wedi’i phersonoli a phrofion, yn ogystal ag addasiadau genetig a datblygiadau arloesol eraill sy’n defnyddio dulliau, offerynnau a thechnolegau newydd, yn siapio dyfodol meddygaeth fodern.
Mae Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru 2022-25 yn amlinellu sut y bydd Partneriaeth Genomeg Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, i ddefnyddio datblygiadau o ran deall a defnyddio genomeg i drawsnewid strategaeth iechyd cyhoeddus a darpariaeth gofal.
Mae’r Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru 2022 – 2025 ar gael yma.
Lawrlwythwch Y Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru 2022 – 2025 yma.
