Mae’r ddrama podlediad Tremolo – prosiect cydweithredol rhwng Parc Geneteg Cymru, Theatr Illumine a Theatr Genedlaethol Cymru, a chyda chymorth y Gymdeithas Geneteg – wedi’i henwebu ar gyfer dwy Wobr Drama Sain y BBC! Mae’r gwobrau’n dathlu ystod, gwreiddioldeb ac ansawdd unigryw drama sain ar yr awyr ac ar-lein ac yn rhoi cydnabyddiaeth i greadigrwydd actorion, awduron, cynhyrchwyr, dylunwyr sain ac eraill sy’n gweithio yn y genre hwn.
Mae Tremolo gan Lisa Parry, cynhyrchydd Zoe Waterman, Theatr Illumine wedi’i enwebu yn y categori ‘Drama Sengl Wreiddiol Orau’. Mae’r actor Gareth Elis wedi cael ei enwebu ar gyfer ‘Gwobr Marc Beeby am y Perfformiad Cyntaf Gorau’ am ei bortread o Harri, 18 oed, sydd newydd orffen ei arholiadau ac sy’n barod i ddilyn ei freuddwydion pan mae’n darganfod bod ei fam wedi cael diagnosis o Glefyd Alzheimer Etifeddol Cynnar, ac mae gan Harri a’i chwaer 50 y cant siawns o etifeddu’r cyflwr.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul 19 Mawrth 2023 mewn seremoni yn y Radio Theatre yn BBC Broadcasting House Llundain a hoffai pawb ym Mharc Genynnau Cymru ddymuno pob lwc i dîm Tremolo!
Rhagor o wybodaeth am Tremolo:
Pe baech yn gwybod y gallech gael cyflwr meddygol difrifol ac y gallech gael gwybod, a fyddech chi? Sut y gallai hyn effeithio ar eich ffrindiau a’ch teulu?
Archwilir y cwestiynau hyn drwy stori Harri, 18 oed. Mae ei fyd yn cael ei droi’n ben ei waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o glefyd Alzheimer teuluol cynnar ac mae gan Harri a’i chwaer siawns o 50% o’i etifeddu. A ddylai gymryd prawf i ddarganfod os yw’r cyflwr arno?
Wedi ei anelu’n bennaf at gynulleidfaoedd ifanc 16+ oed, ond ar gael i bawb. Caiff y podlediad ei ryddhau 3 Mawrth, a bydd ar gael i wrando arno a’i lawrlwytho drwy blatfformau yn cynnwys Spotify, Apple Podcasts, AM yn ogystal ag ar wefan Theatr Gen.
Gallwch gysylltu â Tremolo ar Spotify isod:
Bydd y gyfres bodlediadau hefyd yn cynnwys penodau gan dîm creadigol y ddrama, yn trafod themâu’r ddrama, yn ogystal â chyfraniadau gan arbenigwyr geneteg.
Mae Tremolo yn gynhyrchiad Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg.
Yn serennu Gareth Elis. Ysgrifennwyd gan Lisa Parry, cyfieithiad Cymraeg gan Branwen Davies, dan gyfarwyddyd Zoë Waterman, cerddoriaeth delyn a gyfansoddwyd ac a chwaraewyd gan Eira Lynn Jones, dylunio sain a golygu gan Rhys Young, cerddoriaeth ychwanegol gan Yws Gwynedd. Recordiwyd Tremolo yn Hoot Studios, Caerdydd.
Pecyn Addysg
I gyd-fynd â’r ddrama mae pecyn addysg ar gyfer ysgolion a cholegau wedi’i anelu at ddisgyblion blwyddyn 12/13. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys:
Cynnwys Creadigol gan gynnwys
- Crynodeb o’r ddrama
- Cyfweliadau Fideo gyda’r Thim Creadigol
- Gweithgareddau Creadigol
Cynnwys Gwyddonol gan gynnwys
- Pecyn gwybodaeth
- Cymorth gyda Gyrfaoedd
- Gweithgareddau Gwyddonol
- Pwyntiau i fyfyrio arnynt
- Cymorth a chefnogaeth
Gall athrawon/addysgwyr gael copi o’r pecyn drwy ebostio walesgenepark@caerdydd.ac.uk
