A all profion genetig helpu i wneud meddyginiaethau’n fwy diogel? Yr Athro Dyfrig Hughes, Prifysgol Bangor
Darlithfa Fawr, Lefel 5, Pontio, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ
Dydd Llun, 6 Mawrth, 7 – 8pm (gellir cofrestru o 6.30pm ymlaen. Mae’r cyflwyniad yn dechrau am 7pm)
Mae meddyginiaethau wedi trawsnewid llawer o fywydau. Fodd bynnag, mae siawns bob amser y bydd pobl yn profi sgil-effaith. Gall y rhain amrywio o ran difrifoldeb o anhwylder bol ysgafn neu frech, i beryglu bywyd. Wrth i ni ddysgu mwy am sut mae meddyginiaethau’n achosi’r effeithiau anffodus hyn, mae rôl geneteg yn dod yn fwyfwy amlwg. Gallwn nawr brofi genynnau pobl i leihau’r risg o sgîl-effeithiau. Bydd y ddarlith hon yn rhoi cyflwyniad a throsolwg o rôl geneteg wrth ragnodi meddyginiaethau, a bydd cyfle I holi wedyn. Ymunwch a Yr Athro Dyfrig Hughes a Phartneriaeth Genomeg Cymru i ddarganfod mwy!
Mynediad RHAD AC AM DDIM. Rhaid cofrestru drwy ddefnyddio Eventbrite: shorturl.at/nzE46
Gellir cofrestru o 6.30pm ymlaen. Mae’r cyflwyniad yn dechrau am 7pm.
I gael rhagor o wybodaeth ebostiwch walesgenepark@caerdydd.ac.uk
