Hwylusydd Timau Uwch: manylion yma

Dyddiad cau: 28.07.23

Mae Prifysgol Caerdydd yn awyddus i benodi unigolyn uchel ei gymhelliant i oruchwylio rheolaeth uwch dîm Parc Geneteg Cymru.  Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â phrofiad o reoli rhaglen o weithgaredd a gweithio mewn amgylchedd addysg uwch/GIG gyda phrofiad o fiowybodeg a thechnoleg dilyniannu graddfa genom.

Ariennir Parc Geneteg Cymru gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru; ar hyn o bryd rydym yn ein 20fedflwyddyn o gyllid olynol. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo a hwyluso ymchwil enetig feddygol ac addysgu a hysbysu’r cyhoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol, a phobl ifanc fel ei gilydd am y materion a’r cyfleoedd a godir gan eneteg. Mae Parc Geneteg Cymru yn aelod hanfodol o Bartneriaeth Genomeg Cymru, ac yn gweithio gyda phartneriaid eraill i roi strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru ar waith. Disgwylir i’r holl bartneriaid adleoli o Barc y Mynydd Bychan i safle Cardiff Edge, Coryton, tua diwedd 2023.

Mae Parc Geneteg Cymru yn gweithio’n agos gyda GIG Cymru, yn enwedig Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), i hyrwyddo a galluogi’r defnydd o dechnoleg genomig mewn diagnosteg a gofal iechyd.  Rydym yn dod ag arbenigedd a phrofiad mewn geneteg a genomeg yng Nghymru ynghyd, yn darparu technolegau o’r radd flaenaf i ymchwilwyr ac yn darparu mentrau arloesol i addysgu ac ymgysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol a’r cyhoedd yng Nghymru a’r tu hwnt.