A ydych wedi eich effeithio gan gyflwr prin neu enetig? Ydych chi’n aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am iechyd a genomeg? Ymunwch â ni ar gyfer Caffi Genomeg Rhithwir! Bydd caffi yn cynnwys sgyrsiau anffurfiol gyda siaradwyr gwadd:

  • Ydy Eich Gennyn IL-6R Gallu Dylanwadu Eich Dewisiadau Ynglun a Ymarfer Corff? Dr Richard Webb, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • O dawelwch i swn: Canfod fy llais fel claf clefyd prin Melissa Martin, Prifysgol Caerdydd
  • Diweddariad o SWAN (DU) Cymru Amanda Thomas, SWAN (DU) Cymru
  • Rare Minds Lauren Roberts, Rare Minds

Bydd y Caffi Rhithwyr yn gyfle anffurfiol i gwrdd ag eraill a chael gwybod am ddatblygiadau newydd ym maes meddygaeth enomeg yng Nghymru. Bydd hefyd yn gyfle i bobl ddod ynghyd, cael cefnogaeth gan bobl eraill yn eu cymunedau a rhoi gwybod i ni sut gallwn ni roi cefnogaeth well i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan gyflyrau prin neu enetig.

Ymunwch a ni am baned! Croeso i bawb – mae’n RHAD AC AM DDIM

Cofrestrwch ar gyfer Caffi YN BERSONOL (25 o llefydd ar gael): https://shorturl.at/ciLSW

Cofrestrwch ar gyfer Caffi RHITHWIR (Zoom): https://shorturl.at/dnBP3

Rhagor o wybodaeth: walesgenepark@caerdydd.ac.uk