Rhwydwaith Gweithwyr Proffesiynol

Mae Rhwydwaith Gweithwyr Proffesiynol newydd Parc Geneteg Cymru ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, ymchwilwyr, a rhanddeiliaid perthnasol eraill sydd â diddordeb mewn geneteg a genomeg.

Gellir ymuno â’r rhwydwaith yn rhad ac am ddim ac mae aelodau’n derbyn gwybodaeth – gan gynnwys e-gylchlythyr chwemisol – am raglen waith Parc Geneteg Cymru, yn amrywio o’i wasanaethau genomeg a biowybodeg a’i weithgareddau ymchwil i’w raglen addysg ac ymgysylltu, a chyfleoedd i gydweithio.

Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith, e-bostiwch: WalesGenePark@Cardiff.ac.uk