Mae adnoddau cyfrifiadurol WGP wedi’u hintegreiddio i gyfleuster uwchgyfrifiadura’r Prifysgolion.

Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel yn bartner hanfodol i unrhyw ymchwil genomeg a biowybodeg trwybwn uchel. Gan weithio gyda’n cydweithwyr yn adran Cyfrifiadura Ymchwil Uwch y Prifysgolion (ARCCA) a Supercomputing Wales, mae gan Barc Geneteg Cymru ddatrysiadau cyfrifiadurol a storio pwrpasol sydd ar gael i’w defnyddio gan ein staff a’r ymchwilwyr sy’n cydweithio â ni.

Mae gennym raniad cyfrifiadurol pwrpasol ar system Hawk Supercomputing Wales yng Nghaerdydd. Mae’r nodau hyn ar gael i ddefnyddwyr system Hawk sy’n ymgymryd ag ymchwil yn seiliedig ar eneteg a genomeg.

  • Nifer y nodau: 12
  • Creiddiau ar bob nod: 24
  • Cof ar bob nod: 256Gb

 

Storio Data

Ar hyn o bryd, mae gennym dros 1.5 petabeit o storfa ar ddisg sydd wedi’i lleoli yng nghanolfannau data’r prifysgolion ac sy’n cael ei rheoli ar ein rhan gan gydweithwyr arbenigol yn ARCCA (Cyfrifiadura Ymchwil Uwch yng Nghaerdydd), gan ddefnyddio’r un technolegau â Storfa Data Ymchwil (RDS) y Brifysgol.

Defnyddir ein storfa gan amrywiaeth o ymchwilwyr a grwpiau ar draws yr Is-adran Canser a Geneteg ac o fewn y Coleg Biolegol a Gwyddor Bywyd ehangach.

 

I gael sgwrs am ddefnyddio’r adnoddau hyn, cysylltwch â

Peter Giles (GilesPJ@Cardiff.ac.uk)