Mae gan dîm Addysg ac Ymgysylltu Parc Geneteg Cymru brofiad helaeth o ddarparu rhaglenni addysg, ymgysylltu, cyfranogi a chynnwys llwyddiannus o ansawdd uchel ar draws ystod eang o gynulleidfaoedd sy’n cynnwys:

  • Y cyhoedd
  • Ysgolion a Cholegau
  • Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
  • Ymchwilwyr
  • Y rhai yr effeithir arnynt gan gyflyrau prin a genetig, gan gynnwys unigolion, teuluoedd, gofalwyr a sefydliadau cleifion

Digwyddiadau:

Mae Parc Geneteg Cymru yn trefnu ystod o ddigwyddiadau ar gyfer ymchwilwyr sy’n cynnwys cynadleddau, cyfarfodydd, symposia, gweminarau a gweithdai ar bob agwedd ar feddygaeth enetig a genomig a phynciau perthnasol eraill.

Mae’r digwyddiadau hyn yn dwyn ynghyd arbenigwyr a chynrychiolwyr o Gymru, y DU a ledled y byd i rannu gwybodaeth, yn cynnig fforwm ar gyfer rhwydweithio, ac yn arddangos meysydd arbenigedd yng Nghymru ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.

Gall y tîm ymgymryd â phob agwedd ar drefnu digwyddiad ac mae ganddo enw da am gynnal digwyddiadau pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer cynulleidfaoedd bach a mawr.  Os hoffech drafod trefnu digwyddiad gyda ni, cysylltwch â’r tîm Addysg ac Ymgysylltu.

Cyfleoedd Ymgysylltu:

Mae’r pecyn gwaith Addysg ac Ymgysylltu yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ymchwilwyr sy’n cynnwys:

Sgyrsiau a sesiynau ymgysylltu ag ymchwil mewn ystod o ddigwyddiadau fel:

  • Sioeau Teithiol Geneteg ar gyfer Ysgolion/Colegau a Chynadleddau Chweched Dosbarth
  • Cyfarfodydd grwpiau cymunedol (mae sefydliadau’n cynnwys Prifysgol y Drydedd Oes, Clybiau Rotari, Sefydliad y Merched, Probus, Cymrodoriaethau Ymddeol y GIG, Grwpiau Llyfrgell)
  • Darlithoedd cyhoeddus a chynadleddau geneteg cyhoeddus
  • Cyfarfodydd i Weithwyr Ymchwil ac Iechyd Proffesiynol (gan gynnwys cynadleddau, gweithdai, diwrnodau diweddaru, digwyddiadau ar-lein)
  • Cyfarfodydd ar gyfer y Gymuned Clefydau Prin (e.e. cynadleddau, grwpiau ffocws, diwrnodau gwybodaeth i deuluoedd a gweithdai)

  • Sgwrs ymgysylltu ag ymchwil yn nigwyddiad cyhoeddus Parc Geneteg Cymru

Datblygu cydweithredol a darparu prosiectau ymgysylltu ag ymchwil:

Mae Parc Geneteg Cymru yn gweithio gydag ymchwilwyr ledled Cymru i gydweithio ar brosiectau sy’n hwyluso ymchwil ac ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar genomeg.  Gan ddefnyddio ei brofiad eang a llwyddiannus o ymgysylltu, gall y tîm Addysg ac Ymgysylltu helpu ymchwilwyr i ddatblygu a chyflwyno ceisiadau cyllido allanol ar gyfer prosiectau perthnasol. Lle bo modd, ceisir cyllid yn gyntaf ar gyfer prosiectau peilot sydd â’r potensial i ddenu mwy o arian allanol ar gyfer prosiectau tymor hwy.  Gall Parc Geneteg Cymru gynnig arbenigedd ar agweddau gan gynnwys:

Syniadau ymgysylltu ag ymchwil, cyfleoedd cyllido a cheisiadau am gyllid, cynnwys cleifion a’r cyhoedd ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd, marchnata a chyhoeddusrwydd, trefnu digwyddiadau, cynulleidfaoedd, rhwydweithiau, cyflwyno a gwerthuso.

Bydd cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn rhan o bob prosiect o’r cychwyn cyntaf a thrwy gydol prosiect a bydd yn sail i bob prosiect, gyda chefnogaeth rhwydweithiau sefydledig i gleifion a’r cyhoedd.  Y nod yw sbarduno ymgysylltu â’r cyhoedd, a ariennir yn allanol, ynghylch ymchwil enetig/genomig yng Nghymru a sicrhau bod cleifion a’r cyhoedd wrth wraidd yr ymchwil.

Stondinau ymgysylltu mewn digwyddiadau fel gwyliau gwyddoniaeth a ffeiriau gyrfaoedd:

Researchers can either assist with Wales Gene Park’s engagement stand and activities or have their own stand at a Wales Gene Park event.

Stondin ryngweithiol Parc Geneteg Cymru

Gall ymchwilwyr naill ai helpu gyda stondin ymgysylltu a gweithgareddau Parc Geneteg Cymru neu drefnu eu stondin eu hunain yn un o ddigwyddiadau Parc Geneteg Cymru.

Mae’r tîm Addysg ac Ymgysylltu yn brofiadol iawn, yn hyblyg ac yn frwdfrydig a byddai’n falch o glywed gan unrhyw ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn cydweithio. I gael rhagor o wybodaeth neu drafod unrhyw syniadau, prosiectau neu ofynion penodol, cysylltwch â’r tîm Addysg ac Ymgysylltu.

Rhwydwaith Gweithwyr Proffesiynol Parc Geneteg Cymru:

Mae Rhwydwaith Gweithwyr Proffesiynol newydd Parc Geneteg Cymru wedi’i anelu at ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid perthnasol eraill sydd â diddordeb mewn geneteg a genomeg.

Gellir ymuno â’r rhwydwaith yn rhad ac am ddim ac mae aelodau’n derbyn gwybodaeth – gan gynnwys e-gylchlythyr chwemisol – am raglen waith Parc Geneteg Cymru, yn amrywio o’i wasanaethau genomeg a biowybodeg a’i weithgareddau ymchwil i’w raglen addysg ac ymgysylltu, a chyfleoedd i gydweithio.

 

Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith, e-bostiwch : WalesGenePark@Cardiff.ac.uk