Mae Parc Geneteg Cymru yn cydweithio ag ymchwilwyr ledled Cymru ar brosiectau sy’n gysylltiedig â genomeg a gall hwyluso cynnwys cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil trwy ei rwydweithiau sefydledig ar gyfer cleifion a’r cyhoedd.
Mae enghreifftiau o gynnwys cleifion a’r cyhoedd (PPI) mewn prosiectau blaenorol yn cynnwys darparu mewnbwn ar flaenoriaethu prosiectau ymchwil ar gyfer cymunedau cleifion; cyfrannu at wybodaeth fel ceisiadau cyllido a thaflenni gwybodaeth prosiect; recriwtio aelodau PPI i grwpiau llywio a gweithgorau er mwyn helpu i lywio ac arwain prosiectau a rhaglenni gwaith.
I drafod sut y gall Parc Geneteg Cymru hwyluso PPI yn eich ymchwil, cysylltwch â ni.