Mae dysgu peirianyddol yn gangen o ddeallusrwydd artiffisial (AI) sy’n cynhyrchu ac yn defnyddio algorithmau cyfrifiadurol lle y gellir dysgu o ddata a gwella yn seiliedig ar brofiad.

Dysgu peirianyddol ar gyfer genomeg

Mae modelau ensemble coedwig ar hap yn un dull dysgu peirianyddol y mae Parc Geneteg Cymru wedi bod yn ei gymhwyso at setiau data genomig

Mae ein tîm biowybodeg wedi dechrau ymgorffori’r dulliau hyn yn ei waith ac, erbyn hyn, mae wedi cwblhau nifer o brosiectau ag elfen dysgu peirianyddol:

  • Defnyddio technegau dysgu peirianyddol er mwyn nodi a modelu biofarcwyr mewn canser y prostad
  • Defnyddio dysgu peirianyddol i ragfynegi ymateb cyffuriau yn seiliedig ar fwtaniadau genomig mewn cleifion â lewcemia myeloid acíwt
  • Defnyddio dysgu peirianyddol i ragweld goroesiad cleifion sydd â chanser y prostad
  • Defnyddio dull dysgu peirianyddol ar gyfer dosbarthiad deuol llenyddiaeth fiofeddygol (Cronfa Ddata Mwtaniadau Genynnau Dynol, HGMD)

 

Adnoddau cyfrifiaduras

Pan fydd prosiectau yn ddigon mawr fel bod angen datrysiadau Cyfrifiadura Perfformiad Uchel, mae gennym fynediad i ddau blatfform pwrpasol ar gyfer dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial trwy ein cydberthynas waith agos ag ARCCA a Supercomputing Wales.

Mae Hawk yn darparu rhaniad GPU sy’n cynnwys nodau GPU P100 Nvidia ar gyfer cynnydd mewn trwybwn, wedi’i gefnogi gan gymwysiadau fel MatLab, PyTorch a TensorFlow.   Yn seiliedig ar yr ‘Atos Data Lake’ ac wedi’i ategu gan OpenStack, mae platfform HPDA a deallusrwydd artiffisial ‘Sparrow’ yn ddatrysiad integredig ar gyfer storio, rheoli a dadansoddi data cymhleth sy’n berthnasol i ystod o ddisgyblaethau.

I gael sgwrs am sut y gellid defnyddio dysgu peirianyddol i ddatrys eich problem ymchwil, cysylltwch â Peter Giles (GilesPJ@Cardiff.ac.uk)