Mae diddordeb cynyddol mewn defnyddio data genetig ar y cyd â chofnodion iechyd i esgor ar bosibiliadau newydd ar gyfer ymchwil. Rydym yn gweithio ar brosiect profi cysyniad sy’n mynd i’r afael â materion ymarferol sy’n gysylltiedig â chyfuno data genetig â chofnodion gofal iechyd a gesglir fel mater o drefn mewn porth data diogel. Rydym yn cysylltu ffeiliau VCF o ddata dilyniannu ecsomau cyfan gan unigolion sydd wedi rhoi cydsyniad ym Miofanciau Niwroleg Abertawe, â data ym manc data Cysylltedd Gwybodaeth Ddienw Ddiogel ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydym yn datblygu mecanweithiau y gellir eu hatgynhyrchu i weithredu fel llwybr braenaru i bobl eraill sydd am wneud gwaith tebyg. Yn ein dadansoddiad archwiliadol cychwynnol, rydym yn dadansoddi effaith amrywiadau genynnol ar ganlyniadau go iawn i bobl ag epilepsi, fel derbyniadau i’r ysbyty a mwy nag un feddyginiaeth. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, byddwn yn fwy na pharod i rannu ein profiadau o gysylltu data genetig â setiau data gofal iechyd eraill, a byddem yn croesawu trafodaethau ar waith cydweithredol pellach yn y maes hwn.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag arweinydd y prosiect Professor Kerina Jones: k.h.jones@swansea.ac.uk