Mae Portffolio Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gofrestr o astudiaethau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy’n weithredol yng Nghymru. Mae cydlynydd ymchwil Parc Geneteg Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn cefnogi nifer o brosiectau ymchwil cofrestredig i glefydau prin sydd â ffocws genetig a genomig.
Trwy’r rôl hon, gall Parc Geneteg Cymru gynnig cymorth ar gyfer astudiaethau, o oruchwylio cymeradwyaethau moeseg ymchwil, cydlynu’r gofrestrfa, diwygio prosiectau a diweddaru metrigau adrodd, i’r gwaith o drefnu safleoedd ar gyfer astudiaethau a chyfathrebu â’r safleoedd hynny sy’n cymryd rhan.
Ymhlith yr astudiaethau ymchwil agored cyfredol y rhoddir cymorth iddynt mae:
Mecanweithiau genetig ym mholypedd y coluddyn
Prif Ymchwilydd Dr Hannah West
Nod yr astudiaeth hon, sy’n recriwtio ledled y DU, yw canfod mecanweithiau genetig newydd sy’n sail i bolypedd y coluddyn a datblygiad tiwmorau yn y grŵp hwn o anhwylderau.
12/WA/0071. IRAS 87399
Mae’r astudiaeth hon wedi bod yn sail i nodi newid genetig sy’n lleihau gweithgaredd genyn atal tiwmor hysbys, gan achosi’r ffenoteip polypedd a welir mewn teulu 4 cenhedlaeth. Ni nodwyd y newid genetig hwn gan y gwasanaethau diagnostig clinigol safonol am nad yw’n digwydd ym mhrif gorff y genyn. Fodd bynnag, mae hyn yn tynnu sylw at ddefnyddioldeb posibl ehangu’r broses sgrinio ddiagnostig, yn enwedig i gleifion yr amheuir bod polypedd arnynt pan nad oes newid genetig clasurol wedi’i nodi.
Dadansoddiad genetig moleciwlaidd o bolypedd dwodenol yn y syndromau rhagdueddiad canser ac adenoma’r colon a’r rhefr a etifeddir (Polypedd Chwyddol Teuluol a Pholypedd sy’n Gysylltiedig â MUTYH)
Prif Ymchwilydd Dr Laura Thomas
Mae cleifion â pholypedd chwyddol teuluol (FAP) a pholypedd sy’n gysylltiedig â MUTYH (MAP) hefyd mewn perygl o ddatblygu tiwmorau malaen a chynfalaen yn y dwodenwm yn ogystal â’r colon a’r rhefr. Mae’r astudiaeth hon yn ymchwilio i’r ffactorau genetig, y rhai somatig a’r rhai a etifeddir, sy’n gysylltiedig â thwf a datblygiad adenomâu dwodenol i ganser mewn unigolion â MAP a FAP
15/WA/0075 IRAS 158519
Archwilio achosion genetig polypedd dwodenol gan ddefnyddio gwirfoddolwyr iach
Prif Ymchwilydd Dr Laura Thomas
Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio modelau organoid 3D i archwilio achosion genetig polypedd dwodenol trwy gymharu cleifion yr effeithir arnynt â gwirfoddolwyr iach. Gall cymharu gwirfoddolwyr iach ag organoidau dwodenol 3D a sefydlwyd o gleifion â FAP a MAP (a sefydlwyd fel rhan o… ..) helpu i benderfynu sut mae polypau’n ymddangos mewn cleifion â’r cyflyrau hyn.
19/YH/0310. IRAS 268541
Astudiaeth arfaethedig ledled Ewrop o glefyd dwodenol mewn unigolion â Pholypedd Chwyddol sy’n Gysylltiedig â MUTYH
Prif Ymchwilydd Prof Julian Sampson
Nod yr astudiaeth hon o glefyd dwodenol mewn MAP, yr astudiaeth arfaethedig gyntaf o’i bath a gynhelir mewn sawl canolfan yn Ewrop, yw rhoi tystiolaeth ynghylch a yw argymhellion ar gyfer gwyliadwriaeth a ddatblygwyd ar gyfer cleifion â FAP yn briodol i gleifion â MAP hefyd.
Ei nod yw casglu data hirdymor am y canfyddiadau endosgopig a rhoi gwybodaeth ddilynol i’n helpu i ddeall hanes naturiol clefyd dwodenol mewn unigolion â MAP, gan ystyried bod angen gweithdrefnau therapiwtig ar rai cleifion gan gynnwys cael gwared ar bolypau lle ceir clefyd dwodenol datblygedig. Bydd hefyd yn casglu data yn y dyfodol am achosion o ganser y colon a’r rhefr a chanserau ychwanegol-berfeddol.
Genynnau a’r afu mewn perthynas â Sglerosis Twberus (TSC)
Prif Ymchwilydd Prof Julian Sampson
Mae is-grŵp bach o gleifion â sglerosis twberus sydd â chlefyd systig arennol difrifol tebyg i glefyd polysistig yr arennau mewn oedolion. Yn aml, ceir achosion cynnar neu gynhenid. Nodwyd bod genynnau cyfagos gan gynnwys TSC2 a PKD1 yn cael eu dileu yn y cleifion hyn yn 1994, ond ychydig iawn a wyddys am hanes naturiol syndrom dileu genynnau cyfagos TSC2/PKD1 mewn oedolion. Nod yr astudiaeth hon yw darganfod hanes naturiol clefyd arennol mewn cleifion lle y caiff genynnau cyfagos TSC2/PKD1 eu dileu a chymharu hyn â chleifion â mwtaniadau mewn TSC2 neu TSC1 yn unig. 10/MRE09/3. IRAS 10073
Os hoffech wybod mwy am yr astudiaethau hyn, neu ddysgu mwy am sut y gallai Cydlynydd Ymchwil Parc Geneteg Cymru helpu gyda’ch ymchwil, cysylltwch â Karen Reed, ReedKR@Cardiff.ac.uk