Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) a Phartneriaeth Genomeg Cymru, mae Parc Geneteg Cymru yn cyfrannu at greu a datblygu canolfan gwasanaethau ac ymchwil enomeg ar y cydi Gymru. Ein huchelgais yw y bydd hyn yn sicrhau bod Cymru yn lle atyniadol i weithwyr y GIG a gweithwyr masnachol, gan helpu i recriwtio a chadw staff.
Mae rôl Biowybodeg ar y cyd, a ariennir gan gyllid a ddyfarnwyd l Barc Geneteg Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cael ei chyflawni o fewn tîm biowybodeg AWMGS y GIG er mwyn galluogi gwaith traws-sefydliadol. Nod y swydd yw sicrhau y gellir defnyddio seilwaith genomeg y GIG ar gyfer ymchwil, y gall llif gwybodaeth rhwng y byd academaidd a gwasanaethau clinigol ddigwydd yn ddirwystr, ac y gellir defnyddio data genomig clinigol y GIG ar gyfer ymchwil o fewn rhwydwaith diogel y GIG, lle y ceir moeseg ymchwil briodol a lle y rhoddir cymeradwyaethau priodol.
Mae prosiectau ar y cyd sydd o fudd i ymchwil academaidd a’r agweddau ar Fiowybodeg sy’n ymwneud â diagnosteg glinigol yn cael eu hystyried. Byddwn yn bwrw ymlaen â phrosiectau sy’n ei gwneud yn bosibl i’r gwaith o ddatblygu a chynnal y piblinellau presennol gael ei wneud yn fwy effeithlon a chael ei optimeiddio er mwyn darparu ar gyfer cymwysiadau ymchwil a chlinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith y GIG i weithio ar ddata cyfrinachol o fewn rhwydwaith diogel â phersbectif ymchwil a chlinigol ar y cyd.
Yn sylfaenol, gan weithio gyda Biowybodegwyr yn y GIG a Pharc Geneteg Cymru, bydd deiliad y swydd ar y cyd yn datblygu ac yn cynnal llifau gwaith biowybodeg, yn cefnogi ymchwil ac allbynnau clinigol, ac yn sicrhau bod y piblinellau dadansoddol gweithredol rhwng ymchwil ac allbynnau clinigol yn gadarn ac yn atgynhyrchiol.