Angela Burgess
Cyd-gyfarwyddwr, Addysg ac Ymgysylltu
Mae Angela wedi arwain gweithgareddau addysg ac ymgysylltu ym Mharc Geneteg Cymru ers ei sefydlu yn 2002. Gyda chefndir mewn addysg wyddoniaeth, mae Angela a'i thîm yn gweithio i rannu gwybodaeth am eneteg a genomeg mor eang â phosibl ac ymgysylltu â chleifion a'u cynnwys er mwyn llywio a dylanwadu ar ymchwil genomig.
Email
Dr. Rhian Morgan
Uwch-swyddog Addysg ac Ymgysylltu
Mae gan Rhian gefndir mewn ymchwil fiofeddygol ac mae wedi gweithio mewn lleoliadau academaidd, diwydiannol a chlinigol. Mae hefyd wedi gweithio gydag unigolion a theuluoedd y mae cyflyrau genetig wedi effeithio arnynt. Hi yw Swyddog Addysg ac Ymgysylltu Parc Geneteg Cymru lle mae'n helpu i gyflwyno rhaglen brysur ac amrywiol o weithgareddau sy’n gysylltiedig â geneteg a genomeg i'r cyhoedd, ysgolion a cholegau, gweithwyr iechyd proffesiynol, a chleifion a theuluoedd.
Email
Emma Hughes
Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu Cymru
Mae Emma hefyd yn arwain cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil ar gyfer Parc Geneteg Cymru yn ogystal â bod yn Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu ar gyfer gwaith Genetic Alliance UK yng Nghymru. Mae gwaith Emma yn cynnwys polisïau, materion cyhoeddus, cyfathrebu, a threfnu digwyddiadau i gynhyrchu a chyfleu safbwynt cleifion a theuluoedd ar bolisïau ac arferion sy'n ymwneud â datblygu geneteg a genomeg mewn gofal iechyd yng Nghymru.
Email
Nina Lazarou
Cynorthwyydd Addysg
Mae Nina yn darparu cymorth gweinyddol ar gyfer y rhaglen Addysg ac Ymgysylltu.
Email