Gwybodaeth ac Adnoddau ar gyfer Ysgolion a Cholegau

Mae’r rhyngrwyd yn adnodd gwych ar gyfer dysgu am genomeg ond, gyda llawer o’r wybodaeth wedi’i hanelu at weithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr, ble dylai athrawon a myfyrwyr ddechrau edrych? Rydym wedi casglu ynghyd rai adnoddau gwych ar gyfer y rhai sy’n bwriadu addysgu eraill am genomeg neu sydd eisiau dysgu mwy eu hunain.

Campws Genom Wellcome

Mae gwefan Your Genome yn cynnwys rhai fideos, gweithgareddau a ffeithiau addysgol defnyddiol y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu mewn sesiynau adolygu bioleg. Byddwch yn gystadleuol â’ch dosbarth a rhowch gynnig ar y gêm ryngweithiol You vs Machine lle gallwch chwarae yn erbyn y peiriant i ddilyniannu sampl o DNA.

Genomics England

Mae’r tudalennau Understanding Genomics ar wefan Genomics England yn cynnwys ffeithluniau a fideos sy’n ymdrin â chysyniadau fel “Beth yw genom?” a “Sut rydych chi’n dilyniannu genom?”  I’r rhai sy’n chwilio am fwy o fanylion, mae adrannau hefyd ar genomeg clefydau prin a genomeg canser.

Genomics England yw’r sefydliad a fu’n gyfrifol am y Prosiect 100,000 o Genomau ac mae ei wefan yn cynnwys fideos addysgiadol ar sut mae’r data yn y prosiect yn cael eu trin a’u dadansoddi, ynghyd â straeon gan gyfranogwyr am yr hyn yr oedd cymryd rhan yn y prosiect yn ei olygu iddyn nhw.

Genetics Home Reference

Mae gan Genetics Home Reference rai adnoddau rhyngweithiol, tiwtorialau, arbrofion a chynlluniau gwersi cyffrous ar gyfer athrawon bioleg sy’n chwilio am ffyrdd dyfeisgar o addysgu geneteg. Ymhlith y pynciau dan sylw mae popeth o strwythur a swyddogaeth DNA i Feddygaeth Fanwl ac Epigeneteg.

Learn.Genetics

Mae gwefan Learn.Genetics yn cynnwys ystod o adnoddau rhagorol ac adrannau ar eneteg, bioleg celloedd, esblygiad, iechyd dynol, niwrowyddoniaeth a llawer mwy.

Jeans for Genes

Mae gwefan Jeans for Genes yn cynnwys nifer o ffilmiau a gwasanaethau i ddod â phwnc geneteg yn fyw mewn gwers neu o flaen yr ysgol gyfan. Mae’r adnoddau, sy’n cael eu categoreiddio yn ôl Cyfnod Allweddol, wedi’u datblygu gydag athrawon, wedi’u profi yn yr ystafell ddosbarth ac yn cyd-fynd â’r cwricwlwm cenedlaethol.

Mae disgyblion yn dysgu am enynnau, etifeddiaeth ac anhwylderau genetig trwy lygaid pobl ifanc y mae anhwylder naill ai’n effeithio arnyn nhw neu ar eu brawd neu chwaer.  Mae’r llyfrgell ffilmiau yn cynnwys y ffilmiau a wnaed hyd yma, a gellir gweld y gwasanaethau ysgolion uwchradd yma.  Mae’r straeon yn disgrifio cyflyrau genetig gan gynnwys ffibrosis systig, nychdod cyhyrol Duchenne a Chlefyd Huntington.  Mae taflen ffeithiau i athrawon a set o adnoddau gwersi fel cwisiau, gemau, gweithgareddau a phynciau trafod yn cyd-fynd â phob ffilm pum munud.

Genetic Alliance UK

Mae dros 6,000 o gyflyrau genetig yn cael eu hachosi, yn rhannol o leiaf, gan newidiadau yn y DNA. Mae tudalennau gwe Learn About Genetics ar wefan Genetic Alliance UK yn cynnig gwybodaeth am DNA, genynnau a genomau a chyflyrau genetig. Mae’r adrannau’n cynnwys Anhwylderau Genetig, Patrymau Etifeddiaeth a ‘My Genome Sequence’.

Illumina

Ewch i adran STEM Education ar wefan Illumina lle gallwch ddod o hyd i adnoddau fideo defnyddiol ar gyfer athrawon a myfyrwyr.  Mae’r pynciau’n cynnwys: Genynnau, CRISPR a chyfres fideo “Adventures in Genomics”. Byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i adnoddau ystafell ddosbarth, podlediadau, gwybodaeth am yrfaoedd ym maes genomeg a rap DNA.

Cyrsiau Ar-lein

Health Education England

Allwch chi weld y potensial ar gyfer genomeg? Hoffech chi gael rhai adnoddau i’ch helpu i addysgu myfyrwyr am ddatblygiadau newydd sy’n digwydd yn gyflym yn y maes hwn? Mae Rhaglen Addysg Genomeg Health Education England yn darparu cyrsiau ar-lein hygyrch am ddim, gan gynnwys ei gyfres ‘Genomics 101’, sy’n ymdrin â phynciau fel ‘Cyflwyniad i Fiowybodeg’ a ‘Prosesu Samplau ac Echdynnu DNA’.  Yn ogystal ag adnoddau eraill, mae gan y Rhaglen Addysg Genomeg lawer o fideos YouTube a gwefannau cyfryngau cymdeithasol gwych i chi eu dilyn a derbyn mwy o ddiweddariadau.

Khan Academy

Mae Khan Academy yn cynnig ymarferion, fideos hyfforddi, a dangosfwrdd dysgu wedi’i bersonoli sy’n ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr astudio wrth eu pwysau yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi. Ewch i’r tudalennau Bioleg i weld pynciau gan gynnwys rhannu celloedd, DNA, rheoleiddio genynnau, biotechnoleg ac esblygiad. Mae tudalennau gwe Iechyd a Meddygaeth ychwanegol yn ymdrin â meysydd fel clefydau anadlol a chylchredol, cyflyrau heintus, clefydau niwrolegol a llawer mwy.

Byddwch yn ymwybodol o’n hymwadiad dolenni allanol.