Rhwydwaith Geneteg ar gyfer Athrawon

Ein rhwydwaith ar gyfer athrawon bioleg sy’n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am eneteg a genomeg.

Sefydlwyd y Rhwydwaith Geneteg ar gyfer Athrawon yn 2006.  Mae wedi’i anelu at athrawon bioleg sy’n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am eneteg a genomeg, ac mae ganddo dros 400 o aelodau erbyn hyn.

Mae aelodau’r rhwydwaith yn derbyn cylchlythyr bob tymor sy’n cynnwys erthyglau ar eneteg gyfredol a materion yn ymwneud â genomeg, ynghyd â gwybodaeth am wefannau perthnasol, adnoddau addysgol a digwyddiadau sydd ar ddod. Anogir aelodau i anfon erthyglau ac adborth gyda sylwadau a cheisiadau am rifynnau yn y dyfodol.

Trwy’r Rhwydwaith Geneteg ar gyfer Athrawon, mae Parc Geneteg Cymru hefyd yn hwyluso cyfleoedd perthnasol eraill i ysgolion a cholegau, fel cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymgyngoriadau lle mae sefydliadau (e.e. Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg) yn gofyn am adborth neu farn ar faterion genetig/genomig sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth neu iechyd.

I ymuno â’r Rhwydwaith Geneteg ar gyfer Athrawon, e-bostiwch: WalesGenePark@Cardiff.ac.uk