Tîm Arweinyddiaeth
Tîm Addysg ac Ymgysylltu
Timau Genomeg Ymchwil
Cyfleuster Genomeg
Mae Shelley yn cynnig 30 mlynedd o arbenigedd labordy i'r Tîm Cyfleuster Genomeg, o gysylltu cadwyni A ricin â gwrthgyrff ar gyfer therapi tiwmor wedi'i dargedu i'w rôl bresennol yn cefnogi’r gwaith o baratoi llyfrgelloedd Dilyniannu Cenhedlaeth Nesaf. Mae’n rhan o dîm sy'n ymdrechu i ddarparu cymorth wedi'i bersonoli i'n hymchwilwyr yng Nghymru.
Mae gan Vikki dros 22 mlynedd o brofiad labordy yn gweithio ym meysydd bioleg ficrobaidd a moleciwlaidd. Yn ystod y 16 mlynedd y bu’n gweithio i Barc Geneteg Cymru, mae Vikki wedi bod yn rhan o'r holl newidiadau a datblygiadau sydd wedi digwydd ar lwyfannau NGS ac o ran gweithdrefnau labordy.
Tîm Biowybodeg
Mae cefndir Iain yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau ymchwil gan gynnwys genomeg a thrawsgrifiadomeg o addasu uchder uchel, a dadansoddiad E-DNA o samplau dŵr o Affrica i gylch yr Arctig ar gyfer Infertebratau, Pysgod, Algâu a Bacteria. Gan weithio o fewn y tîm biowybodeg, mae Iain yn ymddiddori mewn dulliau dadansoddi newydd a datblygu a darparu hyfforddiant ym maes biowybodeg.
Integreiddio Genomeg â SAIL
Kerina yw arweinydd Parc Geneteg Cymru ar gyfer integreiddio genomig â chronfa ddata SAIL. Trwy ei rôl fel y Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Llywodraethu Gwybodaeth ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd (IG&PE), mae Kerina yn gweithio i sicrhau diogelwch data ac i wneud y mwyaf o ddefnyddioldeb data sy'n gymdeithasol-dderbyniol ar draws yr amrywiol fentrau Gwyddoniaeth data poblogaeth, gan gynnwys: Cronfa Ddata SAIL, Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, a chydweithrediad HDRUK.
Cyfleuster Golygu Genomeg
- Prof. Nick Allen
Arweinydd Golygu Genomau - Bridget Allen
Rheolwr Ymchwil Golygu Genomau
Prosiect TRE Canser Cymru
- Dr. Kevin Ashelford
Arweinydd y Strategaeth Data a Seilwaith TG (wedi’i ariannu gan Barc Geneteg Cymru) - Dr. Peter Giles
Gwyddonwyr Data (prosiect TRE Canser wedi‘i ariannu) - Liz Merrifield
Caniatâd Genomig yng Nghymru
- Rhys Vaughan
Rheolwr Cydsyniad Genomig (wedi’i ariannu gan Barc Geneteg Cymru)
Moeseg Ymchwil a Chymorth Prosiect
- Laura Butlin
Cydlynydd Ymchwil
Tîm Rheoli Gweithredol
Mae tîm rheoli gweithredol a ffurfiwyd o blith yr arweinwyr allweddol ar gyfer gweithgarwch ym Mharc Geneteg Cymru ynghyd ag academyddion Prifysgol yn cyfarfod yn rheolaidd i arwain cyfeiriad gweithredol Parc Geneteg Cymru ac i drafod a datblygu ein strategaeth i gefnogi genomeg yng Nghymru. Mae’r tîm hwn yn cael ei gefnogi gan bwyllgor cynghori allanol sy’n adolygu ein gweithgarwch ac yn rhoi cyngor ac arweiniad strategol hirdymor.
Parc Geneteg Cymru
|
Arweinwyr Academaidd
|