Cymerwch Ran!

Mae Parc Geneteg Cymru yn gweithio gyda chleifion a’r cyhoedd er mwyn eu cynnwys mewn ymchwil i eneteg, genomeg a chlefydau prin. Yn ogystal â chynrychiolaeth ar fyrddau llywodraethu Parc Geneteg Cymru, mae cleifion a’r cyhoedd yn chwarae rôl allweddol yn ei holl raglenni gwaith gan gynnwys addysg ac ymgysylltu, ymchwil a datblygu polisi.

Eiriolwr Cleifion a Theuluoedd Yn Siarad yn Nerbyniad Diwrnod Clefydau Prin yn y Senedd

Yn ogystal â chymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, gall cleifion ac aelodau’r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil trwy gynnig eu barn, eu harbenigedd a’u safbwynt allanol am brosiect.

Rydym yn hysbysebu nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn astudiaethau lle mae angen cynrychiolaeth a mewnbwn gan gleifion, teuluoedd a’r cyhoedd. Gallai’r rhain gynnwys cyfarfod ag ymchwilwyr, siarad am syniadau i ddatblygu cynnig ymchwil newydd, helpu i flaenoriaethu prosiectau ymchwil ar gyfer cymunedau cleifion, cyfrannu at geisiadau am gyllid neu wybodaeth a roddir i gleifion neu’r cyhoedd, neu fod yn rhan o grwpiau llywio/gweithgorau i helpu i yrru prosiectau ymlaen.

Caffi Genomeg

Ymunwch â’n rhwydweithiau cleifiona’r cyhoeddi dderbyn newyddion rheolaidd am y cyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan.  Os hoffech wybod mwy am fod yn rhan o waith ymchwil fel cynrychiolydd cleifion neu’r cyhoedd, cysylltwch ag Emma.