Digwyddiadau i Gleifion a Theuluoedd

Mae Parc Geneteg Cymru yn gweithio’n agos gyda’r gymuned Clefydau Prin yng Nghymru ac yn rhoi cyngor a chymorth i’w galluogi i drefnu a chynnal digwyddiadau lleol fel diwrnodau gwybodaeth, digwyddiadau teuluol a chyfarfodydd ymchwil ar gyfer ei chymunedau penodol. Os hoffech gael cymorth i drefnu digwyddiad ar gyfer eich cymuned, cysylltwch â Emma.

Ymhlith y digwyddiadau a drefnir gan Barc Geneteg Cymru a Genetic Alliance UK mae’r canlynol:

Cyfarfod Blynyddol y Rhwydwaith i Gleifion â Chlefydau Prin

  • Cyfarfod blynyddol y rhwydwaith a gynhelir yn yr hydref. Mae’r cyfarfod yn cynnwys siaradwyr gwadd, arddangosfeydd gan sefydliadau cleifion a chyfle i rwydweithio â chleifion, gofalwyr, sefydliadau cleifion a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi’r rhai y mae clefydau prin yn effeithio arnynt.

Cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol

  • Cyfarfodydd rheolaidd o’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cyflyrau Prin, Genetig a Heb Ddiagnosis a gadeirir gan Angela Burns AS. Mae’n cynnig llwyfan i hysbysu Aelodau’r Senedd am brofiadau aelodau o’r gymuned yng Nghymru a’r materion sy’n effeithio arnynt.
Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cyflyrau Prin, Genetig a Heb Ddiagnosis

Derbyniad Seneddol Diwrnod Clefydau Prin

  • Digwyddiad blynyddol, a gynhelir fel arfer ym mis Chwefror, i ddathlu Diwrnod Clefydau Prin a chodi ymwybyddiaeth o glefydau prin ymhlith seneddwyr yn y Senedd.
Derbyniad Blynyddol Diwrnod Clefydau Prin yn y Senedd

Caffis Genomeg

  • Mae caffis, a gynhelir ar y cyd â Phartneriaeth Genomeg Cymru, yn gyfle hamddenol ac anffurfiol i gwrdd ag eraill a dysgu am ddatblygiadau newydd mewn meddygaeth genomig yng Nghymru. Maent hefyd yn rhoi cyfle i’r rhai y mae cyflyrau prin a genetig yn effeithio arnynt ac aelodau’r cyhoedd ddod ynghyd, rhwydweithio, a chael gwybodaeth (megis cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil, digwyddiadau ac adnoddau) a chefnogaeth.
Caffi Genomeg Cyhoeddus

Os ydych yn aelod o’r Rhwydwaith i Gleifion â Chlefydau Prin, byddwch yn cael diweddariadau am yr holl ddigwyddiadau sydd ar ddod. Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith, e-bostiwch: WalesGenePark@Cardiff.ac.uk.