Rhwydwaith i Gleifion â Chlefydau Prin

Mae Rhwydwaith Cleifion Clefydau Prin Cymru yn cynnwys dros 200 o gleifion, gofalwyr, cynrychiolwyr sefydliadau cleifion a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi’r rhai y mae clefydau prin yn effeithio arnynt. Gwahoddir aelodau’r rhwydwaith i gymryd rhan mewn digwyddiadau rheolaidd gan gynnwys cyfarfod blynyddol y Rhwydwaith i Gleifion â Chlefydau Prin, cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol, Derbyniad blynyddol Diwrnod Clefydau Prin yn y Senedd, a Chaffis Genomeg.

Cyfarfod Blynyddol Rhwydwaith Cleifion Clefyd Prin

Mae’r rhwydwaith hefyd yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil sy’n canolbwyntio ar genomeg a chlefydau prin, ac yn hysbysebu cyfleoedd i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil perthnasol trwy’r Porth Ymchwil Clefydau Prin.

I ymuno â’r Rhwydwaith i Gleifion â Chlefydau Prin, e-bostiwch WalesGenePark@Cardiff.ac.uk