Y Newyddion Diweddaraf

Parc Geneteg Cymru yn dathlu 20 mlynedd o Addysg ac Ymgysylltu!

Yr wythnos hon, fe wnaethom gynnal digwyddiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru/Canolfan Iechyd Genomig Cymru, i ddathlu 20 mlynedd o Addysg ac Ymgysylltu gan Barc Geneteg Cymru. Mynychodd llawer y digwyddiad, gan gynnwys cyn gydweithwyr, cydweithwyr a chleifion y mae’r tîm wedi gweithio gyda nhw dros y ddau ddegawd diwethaf.

Ar ôl rhywfaint o rwydweithio a lluniaeth ysgafn, dechreuodd sawl sgwrs fer i amlygu cyflawniadau ein darpariaeth Addysg ac Ymgysylltu, ein gwaith cynnwys cleifion a’r cyhoedd, a’n gwaith cydweithredol dros y blynyddoedd gyda Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan. Roedd ein siaradwyr yn cynnwys Angela Burgess (Parc Geneteg Cymru), Emma Hughes (Parc Geneteg Cymru, Cynghrair Genetig y DU), Dr Rhian Morgan (Parc Geneteg Cymru), Dr Andrew Fry (Parc Geneteg Cymru), yr Athro Peter Kille (Prifysgol Caerdydd) a Dr Alexandra Murray (AWMGS). Cawsom hefyd neges fideo gan ein cydweithiwr Dr Anita Shaw (STEM Powered Learning) sydd wedi ein helpu i gyflawni drwy gadeirio rhai o’n digwyddiadau yn y gorffennol.

Angela Burgess, cyn-gyfarwyddwr Parc Geneteg Cymru

Yn ogystal â’r dathliad, roeddem hefyd yn nodi ymddeoliad ein cydweithiwr hirsefydlog, Angela Burgess, a oedd yn gyd-gyfarwyddwr Parc Geneteg Cymru ac a sefydlodd ein pecyn cyflwyno Addysg ac Ymgysylltu o ddigwyddiadau. Diolchodd cydweithwyr i Angela am ei holl waith caled a’i chyfraniad ystyrlon i’r rhaglen Addysg ac Ymgysylltu. Bydd colled fawr ar ei hôl fel aelod o’n tîm.

Yr Athro Peter Kille, Prifysgol Caerdydd
Dr Alexandra Murray, Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan

Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd, a phawb a fu’n ymwneud â’n gwaith dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’r tîm Addysg ac Ymgysylltu yn gyffrous am ein holl gyfleoedd a digwyddiadau yn y dyfodol, ac i barhau ag etifeddiaeth Angela gan ddarparu ymgysylltiad o safon.