- Gellir defnyddio’r bar chwilio i deipio enw eich cyflwr i mewn, neu enw astudiaeth sy’n gysylltiedig â’r cyflwr yr ydych yn ymddiddori ynddo.
- Ar ôl i chi deipio’r wybodaeth hon i mewn i’r bar chwilio, bydd unrhyw astudiaethau sy’n berthnasol i chi’n ymddangos mewn rhestr fydd yn cynnwys mwy o wybodaeth am yr astudiaeth a sut gallwch gymryd rhan ynddi. Hefyd, bydd gennych yr opsiwn i drefnu’r rhestr mewn gwahanol ffyrdd; er enghraifft, A-Z.
- Weithiau, efallai na fydd fersiynau byrrach ar enwau cyflyrau’n eich galluogi i gael hyd i’r wybodaeth angenrheidiol, felly rhowch gynnig ar ddefnyddio enw llawn y cyflwr os ydych yn ei wybod. Er enghraifft, ‘tuberous sclerosis’ yn hytrach na’r byrfodd ‘tsc’.
- Efallai fod mwy nag un enw ar y cyflwr yr ydych yn chwilio amdano, ac efallai fod enw gwahanol yn cael ei ddefnyddio ar y Porth. Os ydych yn ansicr, chwiliwch drwy ddefnyddio geiriau allai fod yn gysylltiedig â’ch cyflwr, er enghraifft, mae ‘Adenos carcinoma’ yn fath o ganser prin ar yr ysgyfaint. Gallwch ddefnyddio termau amgen fel “Lung Cancer” neu “Rare Lung Cancer”.
- Os nad yw unrhyw astudiaethau’n ymddangos pan rydych yn defnyddio’r bar chwilio, mae lleoedd eraill o hyd y gallwch eu chwilio am ymchwil allai fod yn berthnasol i chi. Mae gan ein hadran o’r enw ‘Joining Rare Disease Research’ ddolenni i safleoedd eraill lle dylech allu dod o hyd i wybodaeth am brosiectau perthnasol.
- Ni fydd gan rai o’r astudiaethau berson cyswllt i gysylltu â nhw i ofyn am wybodaeth bellach am astudiaeth benodol. Y rheswm am hyn yw nad oedd gennym ganiatâd i gynnwys yr wybodaeth hon ar y Porth. Os nad oes person cyswllt wedi’i enwi gan yr astudiaeth yr ydych yn ymddiddori ynddi, cysylltwch â’ch meddyg/eich gweithiwr iechyd proffesiynol neu eich meddyg teulu a rhoi gwybod iddynt am enw’r astudiaeth a dweud bod gennych ddiddordeb mewn cael mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan.
- Efallai byddwch yn dod o hyd i astudiaethau nad ydynt yn ymchwilio i’ch cyflwr penodol, ond sy’n berthnasol i chi o hyd, ac efallai dylech ystyried cymryd rhan ynddynt. Os ydych yn ansicr a yw astudiaeth yn agored i chi, bydd eich meddyg/gweithiwr proffesiynol yn gallu eich cynghori a oes modd i chi gymryd rhan.
Cysylltwch â ni os oes unrhyw adborth gennych am y Porth yr hoffech rannu â ni. Byddwn yn gweithio’n galed i wneud gwelliannau a chynyddu nifer yr astudiaethau ar glefydau prin sydd wedi’u cynnwys. Felly, os ydych yn ymwybodol o unrhyw brosiectau ddylai fod ar y Porth, neu os gallwn eich helpu i ddod o hyd i ymchwil i gyflwr sy’n effeithio arnoch neu ar aelod o’ch teulu, rhowch wybod i ni: RDGateway@cardiff.ac.uk