
Mae Prosiect 100,000 Genom ar waith yng Nghymru ac rydym wrthi’n recriwtio bobl sydd â chlefydau genetig prin cymwys i gymryd rhan.
olrhain recriwtio: 058 |
![]() |
Yn 2003, cyhoeddodd gwyddonwyr o amgylch y byd fu’n gweithio ar y cyd, y wybodaeth gyflawn am eneteg y bod dynol (a elwir hefyd yn ‘genom’). Am y tro cyntaf, roedd gennym y data i’n galluogi i weld pa amrywiad genetig etifeddol sy’n cyfrannu at wneud pob unigolyn yn unigryw. Cafodd y dull o ddarllen y genom ei alw’n dilyniannu DNA. DNA yw’r sylwedd sy’n cludo’r côd sy’n cynnwys yr holl wybodaeth enetig, fel llythrennau sy’n ffurfio testun mewn llawlyfr.
Hwn, hefyd, oedd y cam cyntaf tuag at ddeall pam mae rhai pobl yn iach, ac eraill ddim. Dechreuodd ymchwilwyr a meddygon ledled y byd ddefnyddio’r dull hwn i ganfod pam mae pobl yn datblygu canserau, yn cael heintiau a’r hyn sy’n peri i afiechydon penodol gael eu trosglwyddo o fewn y teulu.
Lansiwyd Prosiect 100,000 Genom yn Lloegr ddiwedd 2012 gyda’r bwriad o greu gwasanaeth meddygaeth genomig newydd ar gyfer y GIG ac i drawsnewid y ffordd y gofelir am bobl – gan alluogi datblygu triniaeth sy’n benodol ar gyfer pob unigolyn. Yn 2016, yn rhan o’r nod i ddatblygu Prosiect 100,000 Genom yn fenter ledled y DU, cafodd Llywodraeth Cymru wahoddiad gan Genomics England i ymuno â Phrosiect Genom 100,000.
Mae Gwasanaeth Geneteg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) – ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru a Llywodraeth Cymru – yn gweithio ar gynnig y cyfle hwn i gleifion yng Nghymru. Caiff Prosiect 100,000 Genom yng Nghymru ei ddefnyddio fel enghraifft wrth integreiddio meddygaeth genomig yn rhan o lwybrau gofal clinigol yng Nghymru, ac mae’n cyd-fynd â Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru.
I ddarllen mwy am y Prosiect Genom 100,000 a’r gwaith mae Genomics England yn ei wneud, dilynwch y ddolen i’w gwefan:
https://www.genomicsengland.co.uk/the-100000-genomes-project/
Os hoffech gael gwybod ar beth cymryd rhan yn cynnwys, dilynwch y ddolen hon:
https://www.genomicsengland.co.uk/taking-part/intro/
Cleifion sydd yn eisoes cymryd rhan yn y Prosiect 100,000 Genomes gallu weld yma:
https://www.genomicsengland.co.uk/taking-part/participant-stories/
Ar hyn o bryd yng Nghymru, dim ond cleifion â chlefyd genetig prin sy’n gallu cymryd rhan. Bydd cynghorwyr genetig ac ymgynghorwyr clinigol sy’n gweithio yn AWMGS yn asesu cymhwyster i gymryd rhan mewn yr astudiant. I ganfod a allwch chi gymryd rhan, cysylltwch â’ch cynghorydd genetig, ymgynghorydd neu’ch tîm prosiect.
Cysylltu â ni

Os hoffech wybod mwy am y prosiect a sut y caiff ei rhedeg yng Nghymru, cysylltwch â’r tîm 100,000 Prosiect Genomes yng Nghymru:
Iris Egner, Rheolwr Prosiect
Rhys Vaughan, Cydlynydd recriwtio, +44 (0) 2921847083
Gabriela Juma, Cydlynydd recriwtio (Dydd Mawrth, bore Mercher, Dydd Iau), +44(0) 2921841712
100k.Genomeproject@wales.nhs.uk